Kevin Sinnott g.1947
Wedi ei eni yn Sarn, de Cymru ym 1947, mae Kevin Sinnott yn un o’r ychydig arlunwyr Cymreig sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol. Hyfforddwyd yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd, Coleg Celf a Dylunio Swydd Caerloyw ac yng Ngholeg Brenhinol Celf, Llundain. Wedi ei hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Celf, arhosodd Kevin yn Llundain drwy’r 1970 a’r 80au, gan adeiladu gyrfa lwyddiannus iawn, gan arddangos mewn nifer o orielau blaenllaw Llundain ac orielau arwyddocaol yn UDA a ledled Ewrop.
Cesglir gwaith Kevin yn fyd eang ac fe’i cynrychiolir mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus pwysig, gan gynnwys yr Amgueddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd. Mae ei gynfas mawr ‘Running Away with the Hairdresser’ yn un o gaffaeliadau mwyaf poblogaidd Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Dychwelodd i fyw yng Nghymru ym 1995 a sefydlodd ei hun yn gyflym ar flaen y gad y dadeni ym mheintio Cymreig. Tra bod ei waith yn y lle cyntaf yn ymwneud â pherthynas dynol, mae dylanwad tirlun Cymru i’w deimlo yn gryf yn ei beintiadau. Ym 2007 etholwyd ef yn aelod o Yr Academi Frenhinol Gymreig.
Casgliadau
Amgueddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd
Amgueddfa Genedalethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oriel Gelf Whitworth, Manceinion
Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen
Yr Amgueddfa Brydeinig
Oriel Gelf Dinas Wolverhampton
Cyngor Celfyddydau Prydain
Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru
Caplaniaeth Prifysgol Rhydychen
Y Cyngor Brydeinig
Cyngor Celfyddydau Ynys Manaw
Coleg Frenhinol Celf, Llundain
MOMA Cymru
Deutsche Bank AG, Llundain
Unilever plc
Casgliadau Preifat Ledled y Byd