Lynne Cartlidge g.1964

Ganwyd Lynne yn Wellington, Seland Newydd ym 1964, symudodd nol i fyw i'r DU gyda'i theulu pan oedd yn dair blwydd oed.  Mae hi wedi byw yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, wedi ennill ei gradd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae ei phaentiadau bywyd llonydd prydferth a chain yn haeddiannol yn ennill dilynwyr ffyddlon a chynyddol yma yng Nghymru a thu hwnt.

‘Mae fy mhaentiadau yn gofnod o fy niddordeb gyda golau a gwagleoedd. Rwy'n peintio gwrthrychau cyffredin, ffrwythau a blodau neu  tu fewn i’r tŷ,  fel bydd y goleuni yn llifo i mewn o’r tu allan.

Wrth i mi edrych ar fywyd llonydd, yr wyf wastad yn peintio mewn perthynas ag ef. Bydd y siapiau a lliwiau yn newid, ac mae yna symudiad mewn llonyddwch.

Mae'r broses yn un mewn cyfres o benderfyniadau am liw a marcio, a wneir mewn ymateb i’r pwnc. Mae pob dylanwad yn gronedig o wybodaeth a phrofiad tra ar yr un pryd, mae'n bwysig caniatáu i'r marciau, lliwiau a phaentiad ei hun 'fod eu hunain'. Mae peintiad sydd â'i fywyd ac ystyr ei hun gyda'r posibilrwydd o symud gwyliwr, yna mae gan gyfle i dyfu