Meirion Ginsberg g.1985
Dywed Meirion am ei waith: "Cefais fy ngeni yn1985 a’m magu yng Ngogledd Cymru a fy hyfforddi yng Ngholeg y Celfyddydau Caerdydd. Dwi wedi ceisio mynd ati i beintio mewn ffordd hollol wahanol i'r tirluniau traddodiadol sy'n nodweddiadol o Gelf Cymru. Mae fy ngwaith i yn fwy o hunangofiant, a dwi’n defnyddio ffrindiau a theulu ac weithiau rhyw gymysgedd Dadaidd efo dipyn o hiwmor ynddi. Dwi wedi cael fy nylanwadu gan rychwant eang o beintwyr, o Willem de Kooning i Rembrandt, a dwi’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i farcio’r cynfas. Mae hyn yn golygu bod fy ngwaith yn troedio’r ffin rhwng y ffigurol a’r haniaethol.
Yn blentyn, mi gefais fy ysbrydoli gan gartwnau a chomics i gymeryd darlunio o ddifri. Hefyd mi gefais fy magu mewn teulu o beintwyr a cherddorion. Yn fuan mi ddaeth darlunio yn bwysig iawn i mi, weithiau’n bwysicach na ffrindiau, ac mi ddysgais yn ifanc sut i fynd ati i wneud marciau ar gynfas. Yn fy arddegau mi gollais ddiddordeb mewn comics, yn rhannol oherwydd y storiau hurt nad oedd gennyf lawer o ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag.
Yr hyn yr oeddwn yn chwilio amdano mewn peintio oedd sut y rhoddwyd y paent ar y cynfas a sut yr oedd y cynfas yn cael ei farcio, ac mi ddysgais lawer gan gyfres ‘The Great Artists’ yr oedd fy nhad yn tanysgrifio iddo. Norman Rockwell a Frances Bacon oedd fy hoff beintwyr. Hyd yn oed heddiw, dwi’n defnyddio elfennau o waith y ddau artist yma yn fy ngwaith, er fy mod yn gwybod llawer mwy ac wedi profi mwy o ddylanwadau ers dyddiau’r trysorau hynny.
Mae hiwmor yn bwysig iawn yn fy ngwaith, ond mae hyn yn cael ei liniaru gan adeiladwaith greddfol fy lluniau. Dwi’n credu’n gryf mewn peintio byrfyfyr ac mewn mentro, a dwi’n teimlo bod y ddau beth yma yn cryfhau fy syniadau a’m dawn. Yn y brifysgol mi geisiais symud i ffwrdd oddi wrth y traddodiadol, ond roeddwn bob amser yn dychwelyd ato mewn ffyrdd cynnil. Mae amrywiaeth yn nodwedd ganolog o’m gwaith i, a dwi’n gobeithio y bydd hynny yn parhau".
Solo Exhibitions
2019 Oriel Tegfryn Gallery, Menai Bridge
2016 Martin Tinney Gallery, Cardiff
2015 Oriel Tegfryn Gallery, Menai Bridge
2014 Martin Tinney Gallery, Cardiff
2013 Tegfryn Gallery, Menai Bridge
2010 Llanover Hall, Cardiff
2010 Galeri, Caernarfon
2008 Canary Wharf, Public Space
Selected Group Exhibitions
2010-19 Martin Tinney Gallery, Cardiff
2009-14 Art London with Martin Tinney Gallery
2011- 18 Tegfryn Gallery Menai Bridge
2012 Art Hamptons, New York
2012 Agnew’s, London
2011 Martin Tinney Gallery, Cardiff, with Sarah Ball
2010 Gwydr House Project, London
2007 Artist Collective, Caernarfon
2005 Oriel Mostyn, Llandudno