Sir Kyffin Williams KBE RA RCA (1918 - 2006)

Ganwyd Syr Kyffin Williams yn Llangefni ym 1918, ac aeth i ysgol baratoi yn Sir Fon cyn astudio yn Ysgol Amwythig. Hyfforddwyd yn Ysgol Celf Gain Slade yn Llundain ym 1941, a bu'n dysgu Celf yn Ysgol Highgate rhwng 1944 a 1973.

Ceir ei ystyried yn artist fwyaf nodedig Cymru yn ystod yr 20fed ganrif. I lawer o bobl, mae ei dirluniau atmosfferig a phwerus yn  diffinio'r tirwedd ddramatig Cymru yn berffaith - yn enwedig gogledd Cymru. Er nad oedd yn defnyddio palet lliwgar, mae cyfoeth ac angerdd i'w waith. Mae'r angerdd yma yn amlwg yn ei bortreadau, ac mae ei bortreadau gorau yn gyfartal o ran ansawdd i'w dirluniau adnabyddus.

Cafodd nifer o wobrwyon ac anrhydeddau yn ystod ei fywyd. Cafodd ei ethol i'r Academi Frenhinol Gymreig ym 1963, a bu'n arlywydd am gyfnod yn ystod y 1970au ac eto yn y 1990au. Ym 1968 enillodd Ysgoloriaeth Cymrodoriaeth Winston Churchill, ar gyfer astudio a pheintio yn Y Wladfa, Patagonia. Etholwyd i'r Academi Frenhinol ym 1974. Derbyniodd OBE ym 1982 am gyfraniadau i'r celfyddydau, ac ym 1995 enillodd wobr Glyndŵr am Gyfraniad Rhagorol i'r Celfyddydau. Cafodd ei urddo'n Farchog ym 1999.

Bu farw ar Ynys Mon yn 2006.