Kevin Sinnott g.1947

Wedi ei eni yn Sarn, de Cymru ym 1947, mae Kevin Sinnott yn un o’r ychydig arlunwyr Cymreig sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol. Hyfforddwyd yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd, Coleg Celf a Dylunio Swydd Caerloyw ac yng Ngholeg Brenhinol Celf, Llundain. Wedi ei hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Celf, arhosodd Kevin yn Llundain drwy’r 1970 a’r 80au, gan adeiladu gyrfa lwyddiannus iawn, gan arddangos mewn nifer o orielau blaenllaw Llundain ac orielau arwyddocaol yn UDA a ledled Ewrop.

Cesglir gwaith Kevin yn fyd eang ac fe’i cynrychiolir mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus pwysig, gan gynnwys yr Amgueddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd. Mae ei gynfas mawr ‘Running Away with the Hairdresser’ yn un o gaffaeliadau mwyaf poblogaidd Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Dychwelodd i fyw yng Nghymru ym 1995 a sefydlodd ei hun yn gyflym ar flaen y gad y dadeni ym mheintio Cymreig. Tra bod ei waith yn y lle cyntaf yn ymwneud â pherthynas dynol, mae dylanwad tirlun Cymru i’w deimlo yn gryf yn ei beintiadau.  Ym 2007 etholwyd ef yn aelod o Yr Academi Frenhinol Gymreig.

Casgliadau

Amgueddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd 

Amgueddfa Genedalethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Oriel Gelf Whitworth, Manceinion

Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen

Yr Amgueddfa Brydeinig

Oriel Gelf Dinas Wolverhampton

Cyngor Celfyddydau Prydain

Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru

Caplaniaeth Prifysgol Rhydychen

Y Cyngor Brydeinig

Cyngor Celfyddydau Ynys Manaw

Coleg Frenhinol Celf, Llundain

MOMA Cymru

Deutsche Bank AG, Llundain

Unilever plc

Casgliadau Preifat Ledled y Byd

 

Catalog Arddangosfa - Gorffennaf 2013

Catalog Arddangosfa - Medi 2015