Peter Prendergast RCA (1946 - 2007)

 

Roedd Peter Prendergast yn un o artistiaid tirlun mwyaf blaenllaw Prydain. Ysbrydolwyd gan dirwedd Eryri ble bu'n byw, ac mae ei beintiadau mynegiannol yn nodweddiadol am eu grym a'u hegni.

Ganwyd Peter yn Abertridwr, de Cymru ym 1946 ond bu'n byw yng ngogledd Cymru am rai blynyddoedd hyd nes ei farwolaeth yn 2007. Hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Slade, Llundain o dan yr athro Frank Auerbach, ac yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae  wedi’i arddangos yn eang ym Mhrydain a thramor ac mae ei waith i'w weld mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus. Ym 1978 etholwyd ef yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig.

Casgliadau  

Oriel y Tate, Llundain

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa Prydain, Llundain

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Stadts Galerie, Stuttgart

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Cyngor y Celfyddydau Cymru

Cymdeithas Gelfyddydol Gogledd Cymru

Cymdeithas Gelfyddydol y Gorllewin, Manceinion

Oriel Genedlaethol Slovakia, Bratislava

Ymddiriedolaeth Cenedlaethol

Oriel Cyngor Caerfyrddin

 

Catalog Arddangosfa 2013