Hot House Tulips - Vivienne Williams


Vivienne Williams RCA g.1955

 

Ganwyd Vivienne Williams yn Abertawe ym 1955, ac mae'n byw yno hyd heddiw. Astudiodd MA, gan ymchwilio'r pwnc ‘ Ymateb llenyddol i gelfyddydau gweledol' ym Mhrifysgol Reading, cyn teithio ac addysgu ledled y byd. Ymunodd a dosbarthiadau darlunio yn Awstralia, rhwng 1980 i 1982, ac wedi iddi ddychwelyd i Brydain, bu'n astudio a gweithio mewn coleg Bwdhaidd tan 1990. Bryd hyn, daeth yn artist proffesiynol llawn amser, ac ers hynny, y mae wedi arddangos a gwerthu'n llwyddiannus iawn. Mae dylanwad Bwdhaidd cryf ar ei pheintiadau, yn enwedig yn ei defnydd o liw ac awyrgylch tawel ei gwaith. Prynwyd gwaith gan Gymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru yn 2003. Mae ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat ym Mhrydain a thramor.

Dywed Vivienne am ei gwaith:

"Lliw yw'r elfen bwysicaf yn fy ngwaith - yn y peintiadau trawiadol ac eithaf egnïol o flodau a'r astudiaethau bywyd llonydd tawel o ffrwythau, bowlenni a llestri. Mae'r elfennau o fewn y llun yn cael eu haildrefnu yn aml. Trwy'r broses yma mae adeiladu haenau o baent yn creu effaith o hen ledr yn hytrach na phapur fel cefndir. Mae ansawdd yr arwynebedd yn cael ei weithio eto ac eto, yn cael ei grafu a'i staenio. Drwy'r broses yma, daw cyfle i'r llun ddod i fodolaeth."

 

Catalog Arddangosfa - Medi 2014

Caralog Arddangosfa - Hydref 2015