Catrin Williams RCA g.1966
Ganwyd Catrin Williams ym 1966 ac fe’i magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala. Mae hi wedi byw wrth y môr ym Mhwllheli ers 1996.
Thema amlwg yng ngwaith Catrin Williams yw Cymreictod, neu yn hytrach ei phrofiad o fyw yng Nghymru. Mae delweddau o’i chefndir a’i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu eu ffordd i’r gwaith: y cartref a’r fferm; y dathlu a’r dillad; y gerddoriaeth a diwylliant Cymreig; yr arferion teuluol a’r wynebau cyfarwydd. Mae gwaith mwy diweddar hefyd yn dwyn ysbrydoliaeth o arfordir ac môr Penrhyn Llyn.
Etholwyd Catrin yn aelod o Academi Frenhinol Gymreig yn 2001.
Casgliadau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
MOMA Cymru, Machynlleth
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Casnewydd
Cyngor Sir Gwynedd
Casgliadau Preifat ledled y byd
Gwobrau
2011 Artist Preswyl i'r Sefydliad Josef Herman
2009 Grant Teithio i Biennale Gelf Fenis
2009 Tir: 5 wythnos preswyliad ar Ynys Gogledd Uist, Ynysoedd Heledd
2003 Syniad Da, Cywaith Cymru - gyda JKA Sailmakers, Pwllheli
2001 Artist Preswyl ym Mhlas Newydd, Llangollen
2001 Canmoliaeth Uchel gan Syr Kyffin Williams, William Selwyn Jones a Peter Prendegast:
Young Wales 5, Academi Frenhinol Gymreig, Conwy
1997 Canmoliaeth, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Bala
1993 Grant Teithio i Galway, Iwerddon
1991 Ail wobr Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Wyddgrug
1990 Grant Teithio i Tsiecoslofacia
1987 Ysgoloriaeth i Lydaw