The Magician - Sally Moore


Sally Moore g.1962

 

Ganwyd Sally Moore yn y Barri, de Cymru ym 1962. Addysgwyd hi yn Ysgol Gelf Ruskin, Rhydychen, ac o ganlyniad enillodd ysgoloriaeth i astudio yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain.

Ers yn gynnar yn ei gyrfa, cafodd ei chelf effaith fawr, ac enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Arddangosfa'r Discerning Eye, ble y gwobrwywyd hi gan William Packer a ‘The Critic’s Prize’. Enillodd y teitl ‘Welsh Artist of the Year’ yn 2005.

Mae arddull manwl a gofalus ei gwaith yn golygu mai dim ond nifer fach o beintiadau mae'n cynhyrchu ac o’r herwydd, mae ei harddangosfeydd un-dyn yn brin ac yn cael ei disgwyl yn awchus. Gwelir datblygiad themâu Sally yn y casgliad diweddaraf yma, gyda phob paentiad yn ddrama seicolegol fychan - yn aml yn afresymol, ambell dro yn swreal ac yn ddieithriad yn ddigri. Gobeithia Sally bod ei phaentiadau yn siglo ac yn difyrru'r gwyliwr.

 

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes, DU

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Oriel Gelf Sunderland

Cymdeithas Gelf De-Ddwyrain Cymru

Coleg Sant Ioan, Rhydychen

Casgliadau Preifat ledled y byd

 

Catalog Arddangosfa - Mehefin 2013