Mary Lloyd Jones RCA FLSW g.1934
Un o arlunwyr mwyaf poblogaidd a sefydledig Cymru yw Mary Lloyd Jones. Wedi ei geni ym Mhontarfynach ym 1934, fe hyfforddwyd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi ei hysbrydoli gan dirlun Cymru ac yn enwedig y gwneuthuriad dynol sydd ar y tirlun, mae gwaith hunan mynegiannol beiddgar Mary yn nodedig am ei defnydd o liwiau atseiniol a chyfoethog.
Dywed Mary am ei gwaith "Yn fy ngwaith rwyf yn anelu i adlewyrchu fy mherthynas gyda'r tir, fy ymwybyddiaeth o hanes, o drysorau ein llenyddiaeth a thraddodiad llafar. Byddaf yn chwilio am ddyfeisiau i'm galluogi i greu haenau yn fy nelweddau. Mae hyn wedi fy arwain i edrych ar ddechreuad ieithoedd ac ar farciau cynnar dynion ar gerrig, ar yr wyddor Ogham ac ar Goelbren y Beirdd".
Mae hi wedi arddangos yn rheolaidd ers y 1960au yng Nghymru, mewn mannau eraill ym Mhrydain ac yn Rhyngwladol. Roedd yn un o dri artist o Gymru a ddewiswyd i fod yn rhan o arddangosfa a deithiodd i bedair dinas yn China yng ngwanwyn 2009. Cafodd hefyd wahoddiad i gymeryd rhan yng Ngwyl Cymru a'r Smithsonian yn Washington DC yn haf 2009.
Mae Mary yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg y Drindod, Caerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth, a gwobrwywyd hi a Doethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Caerdydd. Mae Mary wedi ei derbyn yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu’n gweithio fel artist preswyl am gyfnod yn yr Iwerddon, Yr Alban, Philadelphia, Vermont, India, Yr Eidal, Catalonia a Llydaw.
Casgliadau
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Clwyd
Casgliad Celf y Llywodraeth
Derek Williams Trust
Oriel Ynys Mon
Amgueddfa & Oriel Crawford, Cork, Iwerddon
Prifysgol Keele
Prifysgol Cymru Llanbed
Coleg Alquin, Prifysgol York
Coleg Normal Bangor
Canolfan Gelf Wrexham
Cyngor Dyfed
Canolfan Tyrone Guthrie, Iwerddon
BBC Cymru
Cyngor Ceredigion
S4C
Coleg Green Mountain, Vermont, UDA
Canolfan Fasnach y Byd, Caerdydd
Casgliad Cite Di Adria
Preswylfa Llysgenad Prydain, Y Cenhedloedd Unedig, Efrog Newydd
Casgliad Sefydliad Smithsonian, Washington DC
Casgliadau Preifat ledled y byd