Keith Bowen g.1950

Ganwyd Keith Bowen yn Sir Ddinbych yn 1950, ac astudiodd Gynllunio Graffeg yng Ngholeg Polytechnig Manceinion rhwng 1969 ac 1972.  Mae Keith wedi arddangos yn eang ac wedi derbyn canmoliaeth gyfiawn am ei waith. Yn ogystal â nifer fawr o wobrwyon, mae Keith wedi ennill y Fedal Aur yng nghystadleuaeth Celf Gain Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar ddau achlysur, ac yn 1997 gwobrwywyd ef â Chymrodoriaeth Prifysgol Cymru.  Mae ei waith wedi ymddangos mewn dau lyfr, ‘Snowdon Shepherd’ ac ‘Among the Amish’, yn ogystal â dau stamp y Post Brenhinol.

Dywed Keith am ei waith:

Yn ddeuddeg mlwydd oed, am y tro cyntaf, sefais ar ben yr Wyddfa; roeddwn wedi dod o hyd i fan yr oeddwn am fod ynddi a rhywbeth yr oeddwn yn awyddus i neud. Pum mlynedd a deugain yn ddiweddarach rydw i’n dal i grwydro ar hyd fryniau Cymru ac yn parhau i deimlo’r cynnwrf a’r hudoliaeth gyntaf. Ond, y dyddiau yma, rydw i’n fwy tebygol o ymweld â’r mannau cuddiedig, i ffwrdd o’r prif begynau, mannau heb fawr o atyniad gweledol, yr anghofiedig, y dibwys a’r hen: Cefn Gwlad".

Casgliadau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru        

Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Amgueddfa Genedlaethol y Post

Oriel Ynys Mon, Llangefni

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir Gaerlyr

 

Catalog Arddangosfa - Medi 2013