Chapel - John Knapp-Fisher


John Knapp-Fisher RCA (1931 - 2015)

Ganwyd John Knapp-Fisher yn 1931. Yn dilyn astudiaethau mewn Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Maidstone yn 1949, gweithiodd fel cynllunydd arddangosfeydd a chynllunydd celf golygfeydd yn y byd theatr. Yn 1958 thra yn byw yn Llundain, dechreuodd ganolbwyntio ar beintio ac arddangos ei waith.

Roedd ei gariad gydol oes o gychod a'r môr yn amlwg yn ei destun ac yn ei waith, efe a adeiladodd nhw, hwyliodd nhw ac yn ddiweddarach yn byw ar fwrdd un am nifer o flynyddoed. Testun arall oedd tirwedd Sir Benfro ble y bu yn byw a gweithio ers 1965 hyd at ei farwolaeth yn 2015. Yn sicr mae ei enw yn gyfystyr a pheintio tirlun Sir Benfro.

Bu'n arddangos ei waith ledled Prydain a thramor, gan ddatblygu casgliad ffyddlon o ddilynwyr , gan ddod yn un o artistiaid mwyaf blaengar Cymru,  mae ei waith i weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a preifat. Cafodd ei ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig yn 1992.

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cymdeithas Celfyddydau Gorllewin Cymru

Ysbyty'r Llwyn Helyg, Hwlffordd

Prifysgol Abertawe

Oriel Gelf Beecroft Southend

Banc Barclays, Ipswich

Banc Cenedlaethol Nova Scotia

BBC Cymru, Caerdydd

Casgliadau Preifat ledled y byd