Flowers in a Vase - David Jones


David Jones (1895 - 1974)

Mae David Jones yn un o artistiaid dyfrlliw gorau Prydeinig ei genhedlaeth. Fe'i ganwyd yn Llundain ym 1895, roedd ei dad yn Gymro a'i fam yn Saesnes. O'i blentyndod cynnar, arlunio oedd ei alwedigaeth gyson. Aeth i Ysgol Gelf Camberwell hyd at dechrau'r rhyfel yn 1914, ac yna'n gwasanaethu fel Preifat yn y ffosydd.  Cafodd ei brofiadau yno effaith fawr ar weddill ei fywyd a'i waith. Fe ddarganfuwyd Catholigiaeth ar ôl y rhyfel, ac yn 1921 cafodd ei dderbyn yn ffurfiol i'r Eglwys Gatholig ar ôl cyflawni tair blynedd yng Ngholeg Celf San Steffan.

Ar ôl cyfnod o fyw o fewn gymuned leyg yn Ditchling, Sussex, symudodd i fyw i gymuned arall yng Nghapel y Ffin yn y Mynyddoedd Du, Cymru yn 1925, ac yn ymhyfrydu yn y tirlun cyfagos a fu yn ysbrydoliaeth fawr iddo. Mae ei baentiadau, lluniau ac ysgythriadau gydag ystyr drosiadol, chwedlonol, hanesyddol a metaffisegol. Maent yn cynnwys chwedlau o amser Arthur ac yn aml iawn yn cael naws grefyddol gryf iddynt. Roedd ei wasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel Preifat, ei dröedigaeth i ddilyn y ffydd Gatholig Rufeinig, a'i wybodaeth helaeth o chwedloniaeth Cymru i gyd yn plethu i gynhyrchu'r peintiadau.

Roedd rhai o'i waith gorau wedi'i gomisiynu gan Eric Gill, ffrind agos a chyhoeddwr llwyddiannus, a gomisiynodd ef i gynhyrchu ysgythriadau 'copperplate' am 'The Rime of the Ancient Mariner'.