Portrait of a Young Girl - Maggie - Augustus John


Augustus John OM RA (1878 - 1961)

Ganwyd Augustus John yn Ninbych y Pysgod yn 1878, ac astudiodd yn Ysgol Gelf y Slade, Llundain, dan ddylanwad Henry Tonk. Ystyrid ef yn un o arlunwyr Prydeinig mwyaf enwog ei ddydd. Bu'n addysgu ym Mhrifysgol Celf, Lerpwl ac yna yn artist rhyfel yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Byth yn fyr o noddwyr, daeth John yn arlunydd ffasiynol enwog, yn meithrin delwedd yr ysbryd artistig gwyllt a rhydd, a chael ysbrydoliaeth o fywyd a diwylliant y sipsiwn.

Er ei fod yn artist tirluniau cymwys iawn, wedi’i ysbrydoli yn fawr gan James Dickson Innes, cryfder John oedd ei bortreadau, braslunio a phaentio cyd-artistiaid a Bohemians, awduron a'i deulu. Mor enwog am ei ffordd o fyw bohemaidd a'i bersonoliaeth lliwgar a'r gwaith ffigurol a'r portreadau gwych, roedd Augustus John yn cael ei ystyried yn un o ddarlunwyr gorau’r 20fed ganrif.