Sarah Ball g.1965

ARTIST Y FLWYDDYN CYMRU 2013

Ganwyd Sarah Ball yn Rotherham, Dde Efrog ym 1965 ac fe astudiodd darlunio yng Ngholeg Celf Casnewydd.  Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio fel darlunydd ar gyfer cwmnïau adnabyddus megis y Theatr Frenhinol Genedlaethol. Ers symud i Sir Fynwy ym 1996, mae Sarah wedi canolbwyntio ar greu peintiadau dirgel a phrydferth.

Mae ei gwaith yn ymwneud ag atgofion ag iaith weledol y storïwr, a dywed am ei gwaith;

“Drwy fy ngwaith rwy’n chwarae rhan casglwr; curadur o wrthrychau a syniadau. Mae fy mheintiadau yn cyfeirio at storïau a chwedlau, wedi eu deillio o fanion amgueddfeydd, Tacsidermi Fictorianaidd, ffotograffiaeth yr heddlu a’r stiwdio, blodeugerdd a chasgliadau o’r byd naturiol, yn ogystal â gwrthrychau o’m hamgylchedd uniongyrchol. Rwy’n ail osod yr holl ffynonellau, gan greu cymeriadau newydd mewn golygfeydd dychmygol.”

Ers cwblhau MFA ym Mhrifysgol Bath Spa yn 2005, mae Sarah wedi arddangos ei gwaith yn eang, ac enwebwyd hi ar gyfer sawl gwobr, yn gynnwysiedig o Wobr Bwrcas Prifysgol Morgannwg yn 2006 a 2008, yn ogystal ag Arddangosfa Gwobr 'Threadneedle' yn Llundain yn 2009.  Yn 2013, hi oedd enillydd pennaf 'Artist Y Flwyddyn Cymru'.

Casgliadau a Gwobrau

Casgliad Prifysgol Morgannwg

Gwobrau Aur B & H, Orielau y Mall, Llundain

Gwobrau D & A D, Theatr Genedlaethol Frenhinol, Llundain

Gwobrau W H Smith, Amgueddfa V & A, Llundain