John Petts (1914 - 1991)
Cydnabyddir John Petts fel un o engrafwyr pren gorau'r ugeinfed ganrif. Mae ei argraffiadau yn dehongli tirluniau a phobl Cymru. Dysgodd y grefft o engrafu pren yng Ngholeg Celf Hornsey yn Llundain, dan arweiniad Norman Janes, a dysgodd ei dechnegau engrafu yng Central School of Art dan arweiniad W.P. Robins. Ym 1935, gadawodd Petts a'i wraig gyntaf, yr arlunydd Brenda Chamberlain eu haddysg yn ysgol yr Academi Frenhinol yn Llundain er mwyn symud i dy fferm yn Eryri. Yno, sefydlodd y ddau Gwasg y Gaseg ym 1937. Cynhyrchwyd cardiau Nadolig a llyfrau, yn ogystal a darluniau ar gyfer 'Welsh Review', cylchgrawn llenyddol gan y Wasg.
Roedd yn artist dylanwadol ac uchel iawn ei barch. Daeth John Petts yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Gweledol Celfyddydau Cymru, gwasanaethodd Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr rhwng 1958 a 1961, ac enillodd Gymrodoriaeth Churchill yn 1966. Etholwyd i Gymdeithas Engrafwyr Pren ym 1953, daeth hefyd yn Aelod Cyswllt o'r Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr Ysgythrwyr & Engrafwyr yn 1957.
Casgliadau
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Amgueddfa & 0riel Casnewydd
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Prifysgol Texas, Austin, UDA
Prifysgol Alabama, Birmingham, Alabama, UDA
Cyngor y Celfyddydau Cymru
Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru
Oriel Gelf Derby
Prifysgol Hong Kong