Susan Gathercole RCA g.1962

Ganwyd Susan yn 1962 yng Nglasgow, a graddiodd mewn astudiaethau Celfyddyd Gain yn Lerpwl yn 1984.  Mae hi'n gweithio mewn stiwdio fach sy'n edrych dros y coed i mynyddoedd Eryri lle mae hi wedi byw am dros ugain mlynedd.

Mae ei gwaith yn disgrifio gwrthrychau bach cartrefol sef jygiau, platiau, mygiau, pethau sydd i'w gweld yn sythweledol athrylithgar, ac weithiau o bersbectif breuddwydiol.  Yn siarad am ei gwaith "Mae'r weithred syml a tawel o osod gwydraid o flodau gwyllt yn erbyn darn lliwgar o ffabrig yn esiampl o’r hyn sy'n fy niddori."