George Chapman (1908 - 1993)
Ganwyd George Chapman yn Llundain ac fe hyfforddwyd yn y Ysgol Gelf y Slade ac yng Ngholeg Celf Frenhinol, Llundain. Roedd ei ddylanwadau cynnar yn cynnwys Sickert ac Ysgol Euston Road. Fodd bynnag, creodd ymweliad i'r Rhondda yn 1953 argraff fawr arno a thrawsnewidiodd ei weledigaeth fel artist. Enillodd ei beintiadau diwydiannol o gymoedd de Cymru lwyddiant beirniadol a masnachol enfawr, gydag arddangosfeydd yn gwerthu allan yn Llundain yn y 1950au hwyr a'r 1960au cynnar. Enillodd y Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1957. Ymgartrefodd yn Aberaeron, Ceredigion yn 1964.
O ddiwedd y 1960au hyd at y 1990au cynnar, fe ystyriwyd gwaith Chapman braidd yn anffasiynol, a dim ond ar ôl ei farwolaeth yn 1993 cafodd ei enw da adfywiad mawr. Mae ei beintiadau o'r Rhondda yn cael eu hystyried yn awr fel cofnod pwysig o dirwedd ddiwydiannol a'r gymuned sydd nawr wedi diflannu.
Casgliadau
Oriel Gelf Dinas Bradford
Oriel Gelf Brunswick, Canada
Coleg Clare, Caergrawnt
Coleg Sidney Sussex, Caergrawnt
King’s College, Caergrawnt
Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
Cymdeithas Celf Cyfoes Cymru
Cyngor Sir Essex
Cymdeithas Oriel Fry, Saffron Walden
Oriel Glynn Vivian, Abertawe
Cyngor Llundain
Cyngor Sir Hampshire
Oriel Gelf Herbert, Coventry
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, Caerdydd
Coleg St. Anne, Rhydychen
Coleg Corpus Christi, Rhydychen
Cyngor Sir Rhydychen
Oriel Gelf Stockport
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain
Cyngor Celfyddydau Cymru
Oriel Gelf Whitworth, Manceinion