Menagerie - Sally Moore

Arddangosfa Bresennol

Sally Moore

16 Mehefin 2018 - 8 Gorffennaf 2018

Ganwyd Sally Moore yn y Barri, De Cymru ym 1962. Addysgwyd hi yn Ysgol Gelf Ruskin, Rhydychen, ac o ganlyniad enillodd ysgoloriaeth i astudio yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain.

Mae peintiadau Sally wedi ennill gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn Arddangosfa'r Discerning Eye yn Llundain ac mae hefyd wedi derbyn gwobr Artist y Flwyddyn, Cymru.

Mae ei gwaith yn aml yn hurt, ambell dro yn swreal ac yn ddieithriad yn ddigri. Dywed Sally am ei chasgliad diweddaraf: ‘Mae fy arsylwi dyddiol o’r bywyd gwyllt a'r newidiadau tymhorol yn fy ngardd wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ar gyfer y dychymyg chwareus ac weithiau rhyfedd a ddangosir yn fy nghyfres ddiweddar o luniau.’

Mae arddull manwl ei gwaith yn golygu mai dim ond nifer fach o beintiadau mae'n cynhyrchu ac o’r herwydd, ychydig yw nifer ei harddangosfeydd. Mae’r sioe hon o 12 peintiau newydd yn gyfle prin i gael gweld ac edmygu crefftwaith cain gwaith Sally.

Oriau Agor

Llun, 10:00-17:00

Mawrth - Ar Gau

Mercher - Sadwrn 10:00 -17:00

Sul, 11:00-16:30

Am oriau agor dros y Nadolig ar Pasg, ffoniwch yr oriel.

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter