Enlli - Catrin Williams RCA

Arddangosfa Bresennol

Catrin Williams : Gwaith Diweddar

17 Mawrth 2017 - 9 Ebrill 2017

Ganwyd Catrin Williams ym 1966 ac fe’i magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala. Mae hi wedi byw wrth y môr ym Mhwllheli ers 1996.

Thema amlwg yng ngwaith Catrin Williams yw Cymreictod, neu yn hytrach y profiad o fyw yng Nghymru. Mae delweddau o’i chefndir a’i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu eu ffordd i’r gwaith: y cartref a’r fferm; y dathlu a’r dillad; y gerddoriaeth a diwylliant Cymreig; yr arferion teuluol a’r wynebau cyfarwydd. Mae'r gwaith mwy diweddar hefyd yn dwyn ysbrydoliaeth o arfordir ac môr Penrhyn Llyn.

Etholwyd Catrin yn aelod o Academi Frenhinol Gymreig yn 2001.

 

Oriau Agor

Llun-Sadwrn, 10:00-17:00

Sul, 11:00-16:30

Am oriau agor dros y Nadolig a'r Pasg, ffoniwch yr oriel

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter