Felt Bird and Winter Flowering Jasmine - Susan Gathercole RCA

Arddangosfa Bresennol

Susan Gathercole - Paentiadau Newydd

2 Mai 2019 - 30 Mai 2019

Mae'n bleser gennym gynnal arddangosfa o baentiadau llawen ddiweddaraf Susan Gathercole.

Ganwyd Susan Gathercole yn 1962 yng Nglasgow, a graddiodd mewn astudiaethau Celfyddyd Gain yn Lerpwl yn 1984.  Mae'n gweithio mewn stiwdio fechan sy'n edrych dros y coed i gyfeiriad mynyddoedd Eryri lle mae hi wedi byw am dros ugain mlynedd. Mae ei gwaith yn cyflwyno celfi'r cartref sef jygiau, platiau, mygiau, o bersbectif greddfol, ac weithiau, breuddwydiol. 

Wrth siarad am ei gwaith, dywed: 'Mae'r weithred syml a thawel o osod gwydraid o flodau gwyllt yn erbyn darn lliwgar o ffabrig yn esiampl o’r hyn sy'n fy niddori.'

Mae oddeutu 25 o luniau newydd ac maent i gyd ar werth.

Oriau Agor

Llun-Iau 10:00 -18:00

Amseroedd eraill trwy apwyntiad.

 

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter