Listen to Me Please - Kevin Sinnott

Arddangosfa ar Ddod

Kevin Sinnott - Arddangosfa Pen-blwydd yn 70oed

30 Tachwedd 2017 - 22 Rhagfyr 2017

Wedi ei eni yn Sarn, de Cymru ym 1947, mae Kevin Sinnott yn un o’r ychydig arlunwyr Cymreig sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol. Hyfforddwyd yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd, Coleg Celf a Dylunio Swydd Caerloyw ac yng Ngholeg Brenhinol Celf, Llundain. Wedi ei hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Celf, arhosodd Kevin yn Llundain drwy’r 1970 a’r 80au, gan adeiladu gyrfa lwyddiannus iawn, gan arddangos mewn nifer o orielau blaenllaw Llundain ac orielau arwyddocaol yn UDA a ledled Ewrop. Cesglir gwaith Kevin yn fyd eang ac fe’i cynrychiolir mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus pwysig, gan gynnwys yr Amgueddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd. Mae ei gynfas mawr ‘Running Away with the Hairdresser’ yn un o gaffaeliadau mwyaf poblogaidd Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Dychwelodd i fyw yng Nghymru ym 1995 a sefydlodd ei hun yn gyflym ar flaen y gad y dadeni ym mheintio Cymreig. Mae'r sioe ddiweddaraf hon yn Oriel Martin Tinney yn dathlu pen-blwydd Kevin yn 70 oed gydag arddangosfa o baentiadau newydd sy'n dangos ei bryder parhaus â thynerwch a chymhlethdod perthnasoedd dynol.

Oriau Agor

Llun-Gwener, 10:00-18:00

Sadwrn, 10:00-17:00

Suliau a Gwyliau Banc, ar gau

Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda

Am oriau agor dros y Nadolig a'r Pasg, ffoniwch yr oriel

 

Facebook follow me on instagram follow me on twitter