Food for Thought - Sally Moore

Arddangosfa Bresennol

Sally Moore - Paentiadau Newydd

20 Mehefin 2017 - 8 Gorffennaf 2017

Ganwyd Sally Moore yn y Barri, de Cymru ym 1962. Addysgwyd hi yn Ysgol Gelf Ruskin, Rhydychen, ac o ganlyniad enillodd ysgoloriaeth i astudio yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain. Ers yn gynnar yn ei gyrfa, cafodd ei chelf effaith fawr, ac enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Arddangosfa'r ‘Discerning Eye’ yn 1996, pryd cyflwynwyd hi â ‘The Critic’s Prize’ gan William Packer.

Oherwydd arddull gofalus a manwl ei gwaith, yn bur anaml gwelir arddangosfeydd gan Sally ac fel canlyniad, mae’r disgwyl yn eiddgar. Yn yr arddangosfa hon mae’n gweu realiti a dychymyg i greu llun newydd swreal sy’n creu naratif. Dywed Sally am ei gwaith: “Ymgais i ddal ennyd dwys yw pob llun. Gall yr ennyd hwn fod yn bleserus ond hefyd achosi dryswch ac ofn. Mae eu hatgof gyda mi nid yn unig yn y byd real ond hefyd yn fy mreuddwydion.”

Mae gwaith Sally mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, a'r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes.  

Noddir yr arddangosfa gan Gordon Dadds.

Oriau Agor

Llun-Gwener, 10:00-18:00

Sadwrn, 10:00-17:00

Suliau a Gwyliau Banc, ar gau

Grwpiau trwy apwyntiad yn unig os gwelwch yn dda

Am oriau agor dros y Nadolig a'r Pasg, ffoniwch yr oriel

 

Facebook