Eleri Mills RCA g.1955
Ganwyd Eleri Mills yn Llangadfan, Powys yn 1955, ac fe astudiodd Celf a Dylunio yng Ngholeg Polytechnig Manceinion, cyn dychwelyd i fyw a gweithio yn yr un gymuned Gymru-Gymraeg lle y magwyd. Tirwedd prydferth ei chynefin yw prif ddylanwad Eleri. Merch fferm yw hi, ac o ganlyniad, mae'r tir yn ffurfio rhan annatod o'i bywyd - drwy'r tir y caiff deimlad o berthyn.
Dengys talent unigryw wrth greu gwaith pwytho gyda llaw a pheintiadau cyfrwng cymysg. Mae hi'n creu dehongliad o Gymru sydd â nifer o haenau; mae'n bersonol, bythol, farddonol, real, ac yn arall-fydol. Er bod ei gwaith wedi'i wreiddio yn hanes hynafol Gymru, mae ei gwaith hefyd yn gyfoes.
Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd yn Llundain a Chymru, Ewrop, UDA a Japan. Fe'i hetholwyd i Academi Frenhinol Gymreig yn 2000. Yn flaenorol, enillodd wobr ar gyfer Arddangosiad Rhagorol yn arddangosfa 'The Art of Stitch' yn y Barbican, Llundain, ac yn 2010 enillodd wobr Llysgennad Creadigol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn ystod 2012, fydd yn Efrog Newydd, i weithio fel arlunydd preswyl ym Mhrifysgol Columbia.
Casgliadau
Cymdeithas Gelfyddydau Cyfoes Cymru
Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredyn
MOMA Cymru, Y Tabernacl, Machynlleth
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Oriel Gelf Whitworth, Manceinion
Palas Hampton Court
Cagliadau Breifat ledled y byd