Nerys Johnson (1942 - 2001)

Ganwyd yr artist a churadur Nerys Johnson ym Mae Colwyn yn 1942, a fe’i magwyd yn Mansfield, Nottinghamshire. Fe astudiodd Celf Gain ym Mhrifysgol Newcastle o 1961, gan ymgartrefu yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Wedi graddio bu’n dysgu cyn cael ei phenodi’n Gadwr Celf Gain yn Oriel Gelf Laing, Newcastle. Ym 1970 fe’i penodwyd yn brif Gadwr Celf Amgueddfa a chanolfan gelf y Durham Light Infantry, lle bu’n gweithio hyd at ei ymddeoliad ym 1989 o sgil salwch. Fe fu farw yn dilyn llawdriniaeth yn 2001.

Wedi ei ymddeoliad yn 1989, canolbwyntiodd Nerys ar ddarlunio a pheintio lawn amser. Mae’n debygol y caiff ei chofio’n bennaf am y gwaith a grëwyd yn ystod y deuddeg mlynedd olaf. Bu blodau yn brif destun pwnc iddi am gyfnod hir, yn enwedig wrth i salwch ei chyfyngu i’w chartref yn Durham. Roedd blodau ar gael ac yn gyfleus ac roedd hyn yn ei galluogi i archwilio eu lliw a strwythur yn agos. Arweiniodd hyn at gyfansoddiadau reit haniaethol.  Roedd ganddi hefyd ddiddordeb yn dehongli blodau wrth iddynt flaguro, tyfu a phylu ac roedd ganddi ymwybyddiaeth o draddodiad o beintio blodau fel symbolau o farwolaeth, a bu hyn yn rhedeg law yn llaw gyda’i diddordeb mewn ffurf.

Dywedodd Nerys am ei gwaith: "Mae blodau wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i’m gwaith ers cyfnod hir. Maent yn fyw, yn newid, yn tyfu, ac yn pydru. Mewn darlun, mae symudiad, strwythur a rhythm y blodau’n cael ei gyfleu drwy gyfres o farciau a llinellau; mewn peintiad mae hyn yn cael ei chyfleu drwy gydbwyso a chyferbynnu lliw. Pe bai bod y blodau wedi eu grwpio mewn clwstwr terfysglyd, neu (yn ymddangos) yn unigol, fy mwriad yw amlygu'r teimlad neilltuol o'r ddelwedd- y lili, casgliad o flodau'r Gwanwyn, neu weddillion trist y Gaeaf ".

Casgliadau

Oreil Gelf Abbot Hall, Kendal

Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Llundain

Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen

Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt

Graves Art Gallery, Sheffield

Oreil Gelf Hartlepool

Oriel Gelf Laing, Newcastle-upon-Tyne

Awdurdod Addysg Leeds

Oreil Gelf Mercer, Harrogate

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Casgliad Celf New Hall, Caergrawnt

Oriel Gelf Norwich

V&A, Llundain

Oriel Gelf Walker, Lerpwl

Oriel Gelf Whitworth, Manceinion

Erthyglau

Kate Evans, ‘Nerys Johnson: Flower Painter with Attitude’, erthygl darluniadol yn Artists and Illustrators, Mawrth 2000. Julian Spalding, ‘Nerys Johnson: Artist whose work defeated her disability’, ysgrif goffa yn The Guardian, 4 Gorffennaf 2001. David Buckman, 'Nerys Johnson', ysgrif goffa yn The Independent, 30 Awst 2001. Julian Spalding, ‘Nerys A Johnson (1942-2001); Artist and Gallery Curator', in Durham Biographies, VI (Cymdeithas Hanes Lleol Sir Durham, 2009).