Stephen Young g.1946

Ganwyd Stephen Young yn Godalming, Surrey ym 1946. Astudiodd yn Ysgol Gelf Guilford rhwng 1962 a 1964, ac yn Ysgol Gelf Chelsea rhwng 1964 a 1968, fel myfyriwr graddedig ac ôl-raddedig. Wedi cyfnod fel artist preswyl ym Mhrifysgol Surrey, daeth yn ddarlithiwr i Ysgol Gelf Caerdydd, ble bu'n bennaeth adran tan ei ymddeoliad diweddar. Mae'n gweithio a byw yng Nghaerdydd ac yn arddangos yn aml yng Nghaerdydd, Llundain a Sbaen.

Mae Harry Holland yn gefnogwr brwd o waith Stephen, a dywed:

'Mae gwelediad arbennig gan Stephen Young. Mae ei waith yn hanu o sefyllfaoedd go iawn a llefydd go iawn, a'r rhain yn cael eu trawsnewid gan ei ddychymyg. Gwna theatr o rwystrau perthynas dynol a'u gwneud yn ddigrifwch, yn eironig, yn od a hyn yn erbyn cefndir byd sydd bron, ond ddim yn hollol, fel y byd yr ydym yn byw ynddi. Mae'r testunau yn bersonol ond, fel pob artist da, mae'r storiâu hyn yn cael ei hadrodd mewn ffordd sy'n troi'r ecsentrig a'r ffug yn rhannau o'n bywyd a'n byd ni. Tynna sylw at y gwirionedd gan ddangos i ni pa mor od y gall fod drwy lygad hael a chariadus'

Casgliadau

Cyngor Celfyddydau Cymru

Celfyddydau De Cymru

Cyngor Sir De Forgannwg

Casgliadau Breifat ledled y byd