William Selwyn g.1933

Ganwyd William Selwyn yng Nghaernarfon yn 1933.  Ar ol treulio dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Royal Artillery, astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor rhwng 1954 ac 1956. Wedi hynny bu’n athro yn Ysgol Iau Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Ers ei ymddeoliad yn 1990 mae wedi bod yn peintio llawn amser, ac mae bellach yn enwog am ei luniau dyfrlliw a gwaith cyfryngau cymysg.

Canolbwynt ei waith celf yw tirlun Gwynedd, ei gweithwyr a’i physgotwyr. 

Ym 1976 etholwyd ef yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig. Ym 1988 enillodd gystadleuaeth peintio dyfrlliw yr 11eg Arddangosfa Singer a Friedlander/Sunday Times a hefyd enillodd wobr Arlunydd Cymreig y Flwyddyn 2001 yn ogystal â gwobr Hyd a Lledrith Llyn 2003.

Casgliadau

Llyfyrgell Genedlaethol Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerfaddon

Cyngor Sir Gwynedd

Cyngor Ynys Mon

Casgliadau Preifat Ledled y byd

 

Catalog Arddangosfa - Tcahwedd 2013