Karel Lek MBE RCA (1929 - 2020)

Ganed Karel Lek yn Antwerp yn 1929, ond daeth aflwydd y rhyfel diwethaf ac ef i Ogledd Cymru yn 1940.  Mi aeth i Ysgol Friars, Bangor a Choleg Gelf Lerpwl.

Dywed Karel am ei waith: “Rwyf yn peintio’n barhaus, ac yn canolbwyntio ar fy nghyd-ddyn fel prif ffocws fy ngwaith ac yn portreadu cymeriadau lu mewn unrhyw sefyllfa, boed yn drefol neu yng nghefn gwlad. Nid ydwyf chwaith yn diystyru prydferthwch naturiol yr amgylchedd sydd o’m cwmpas ac yn wir rwyf yn hoff iawn o’r amser newid tymor rhwng yr hydref a’r gaeaf”.

Mae wedi arddangos yn eang yng Nghymru, a hefyd Llundain, Amsterdam a Chicago. Daeth yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig yn 1955, a chafodd ddyfarniad MBE yn 2003.

Casgliadau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Prifysgol Bangor

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Banc Lincoln Earl Kennedy, UDA

Ymddiriedolwyr Oriel Gelf Dinas Kansas, UDA

Oriel Ynys Mon