Tear - Harry Holland


Harry Holland RCA g.1941

Mae enw Harry Holland wedi ei hen sefydlu fel artist cydnabyddedig.  Fe hyfforddwyd yn Ysgol Gelf St Martins yn Llundain ac mae bellach yn byw a gweithio yng Nghaerdydd ers 1973.

Mae wedi parhau ar y blaen yn y byd arlunio drwy arddangos ei waith mewn arddangosfeydd yma a thramor, a drwy wneud hyn mae wedi sicrhau ei le fel un o artistiaid rhyngwladol mwyaf enwog Prydain. Mae wedi arddangos yn llwyddiannus o ran gwerthiannau ac yn gritigol - yng Nghaerdydd, Llundain, Caeredin, Glasgow, Efrog Newydd, Los Angeles, Chicago, San Francisco, Toronto, Paris, Rhufain, Barcelona, Brwsel, Hamburg, Stockholm, Athen a Vienna, a thrwy’r arddangos cyson hyn, mae wedi tyfu fel un o artistiaid enwocaf Cymru.

Mae wedi anwybyddu dulliau cyffredin a ffasiwn y byd celf ac wedi datblygu thema a steil ei hun. Mae ganddo arddull ddeallus sydd a’i wreiddiau yn ddwfn mewn traddodiadau celf sydd yn aml yn cynnwys crybwylliadau chwedlonol yn ei waith ffigurol.

 

Casgliadau

Oriel y Tate, Llundain

Amgueddfa Metropolitan, Efrog Newydd

Amgueddfa Genedlaethol Canada

Casgliad Senedd Ewrop

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Casgliad Cenedlaethol Gwlad Belg

Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt

Amgueddfa & Oriel Casnewydd

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

BBC Cymru

Casgliad Heinken, Amsterdam

Gartmore Investment Management Ltd

Casgliadau preifat ledled y byd

 

Catalog Arddangosfa - Hydref 2013

Catalog Arddangosfa - Tachwedd 2015