Clive Hicks-Jenkins RCA g.1951

Ganwyd Clive Hicks-Jenkins ym 1951 yng Nghasnewydd, a bu’n gweithio fel coreograffydd a chyfarwyddwr theatr yn ystod ei yrfa gynnar . Yn y 90au gadawodd y theatr i ganolbwyntio ar beintio. Mae wedi derbyn canmoliaeth beirniaid yr Independent, Modern Painters a’r Art Review. Hefyd, mae Simon Callow wedi cyfeirio ato fel ‘un o’r artistiaid mwyaf unigol a chyflawn ein hoes’ ac mae Nicholas Usherwood yn Galleries wedi disgrifio ei waith fel ‘peintio myfyriol a mynegiannol o’r radd flaenaf’. Mae’n arddangos ei waith yn rheolaidd yn Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd ac yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy; hefyd mae wedi cael sioeau undyn yn Christ Church Picture Gallery, Rhydychen, Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth, Amgueddfa ac Oriel Casnewydd, Anthony Hepworth Fine Art, Amgueddfa Brycheiniog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Gelf Aberystwyth. Mae ei baentiadau, printiau a llyfrau argraffdai preifat mewn sawl casgliad cyhoeddus, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth, Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, Cadeirlan Llandaf, Oriel Pallant House, Casgliad yr Eglwys Fethodistaidd o Gelfyddyd Fodern yn ogystal â chasgliadau preifat a llyfrgelloedd ledled byd. Mae'n aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.  

Yn 2016, cafodd ei gomisiynu gan y cyhoeddwyr Random Spectacular i ddarlunio addasiad tywyll a sinistr o Hansel a Gretel, ac yn 2018 roedd yn ail-ymweld a'i yrfa flaenorol o gyfarwyddo pan roedd yn arwain taith genedlaethol o waith cerddorol newydd gan y cyfansoddwr Matthew Kaner roedd wedi ei selio ar y llyfr. Yn 2018 hefyd, roedd yn cwblhau ei gyfres o bedwar ar ddeg o brintiau sydd wedi eu selio ar gyfieithiad Simon Armitage o ‘Sir Gawain and the Green Knight’ ynghyd a’r Penfold Press roedd hefyd yn ei gyhoeddi.  

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

Oriel Gelf Pallant House, Chichester

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

Amgueddfa Cymru Celf Fodern, Machynlleth

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni

Ymddiriedolaeth Celf Brycheiniog

Casgliad Celf Prifysgol Morgannwg 

Amgueddfa Theatr Covent Garden

Casgliadau preifat ym Mhrydain, Ewrop ac UDA

 

Catalog Arddangosfa - Mai 2014