Oliver Gaiger g.1972

 

Ganwyd Oliver Gaiger ym 1972 yn Uganda ac fe'i magwyd yn Sudan, Papua New Gini, Vanuatu, Ynysoedd y Falkland a Chernyw. Cafodd radd BA Anrhydedd mewn Darlunio o Brifysgol Middlesex. Mae wedi byw ar Fynyddoedd Cambrian ger Aberteifi am y deuddeg mlynedd diwethaf.

Mae diwylliannau a thirweddau'r lleoliadau amrywiol wedi parhau i ddylanwadu ar ei waith ac mae hefyd wedi cael ei ysbrydoli gan arwyddion, symbolau a phatrymau a welir yn yr amgylchedd naturiol a‘r rhai a wnaed gan ddyn.

Wedi ei ddylanwadu gan gelf Affricanaidd a chelf Forol o'r mannau lle y treuliodd ei blentyndod, mae hefyd yn dangos tebygrwydd clir i artistiaid fel William Scott, Patrick Heron a cherflunydd Alexander Calder.

“Mae fy ngwaith yn cynrychioli manylder elfennau gwrthrychau neu bethau byw o fewn y dirwedd wyllt, amrywiol. Nid yw'n haniaethol ond yn hytrach lled-haniaethol, gan fy mod yn edrych ar y bwlch rhwng gwaith ffigurol a gwaith haniaethol "