Kim Atkinson g.1962

 

Ganwyd Kim Atkinson yng Nghaerfaddon yn 1962.  Ar ôl cwblhau gradd mewn Celf Gain yn Ysgol Gelf Cheltenham, aeth ymlaen i astudio M.A. mewn Darlunio Hanes Natur yng Ngholeg Celf Frenhinol, Llundain. Yn ystod ei phlentyndod cynnar, roedd yn byw ar Ynys Enlli ar ffarm ei rhieni. Mae nawr yn byw ym Mhenrhyn Llŷn gyda'i theulu.

Mae ei goddrychau - yn bennaf, adar, pryfed a phlanhigion o fewn y tirlun - yn cael eu creu drwy frasluniau arsylwi a nodiadau wedi eu gwneud yn yr awyr agored,  o amgylch ei gardd, neu ar glogwyni a chilfwâu’r pentir.  Mae byd natur, fel y gwelir mewn gwrych neu grwpiau o adar yn cydfyw ar y lan, yn ffurfio syniadau am luniau.

Mae rhai pynciau yn cael eu datblygu yn y stiwdio, lle mae'n defnyddio nifer o dechnegau argraffu i greu printiau cyfyng eu rhif neu mono brintiau. Fe ddefnyddia haenau o inciau olew ar ddarnau persbecs, gan greu arwyneb llawn patrwm a gwead.  Drwy ei gwaith argraffu, mae hi’n ceisio cyfleu a dathlu bod yn un gyda natur.

Ma hi wedi bod yn aelod o Gymdeithas Arlunwyr Bywyd Gwyllt ers 1992.  Yn 1992, fe ymunodd a'i phrosiect cyntaf gydag ‘Artist for Nature Foundation’ (ANF) yn Biebrza yng Ngwlad Pwyl, ac ers hynny mae wedi cymryd rhan mewn llawer o'u hymweliadau i amlygu cynefinoedd o dan fygythiad, megis y Goedwig Tumbesian ym Mheriw, y Warchodfa Teigr Bandhavgarh yn India a Aber y Loire yn Ffrainc

Catalog Arddangosfa  - Hydref 2015