White Flowers and Blue - Rosemary Burton


Rosemary Burton g.1939

 

Ganwyd Rosemary Burton yng Nghaerdydd yn 1939. Ar ôl astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Polytechnig Cymru rhwng 1974 ac 1978, aeth ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus iawn yn dysgu.  Yn fwy diweddar mae wedi sefydlu ei hun fel un o artistiaid blaenllaw Cymru sy'n gweithio gyda collage, ac mae ei gwaith yn hynod boblogaidd, ac i'w gael mewn nifer o gasgliadau preifat ledled Prydain a thramor. 

"Dros y blynyddoedd rwyf wedi arlunio, peintio a gwneud collage o flodau blodau ac maent wedi dod yn rhan bwysig o fy ngwaith. Maent hefyd yn rhan o atgofion fy mhlentyndod cynnar; yn eu plith, teithiau cerdded gyda fy nhad yn tynnu sylw at harddwch, siapiau ac enwau blodau gwyllt.  Roedd ganddo ardd hyfryd gydag amrywiaeth mawr o blanhigion.  Rwyf yn dal i fwynhau edrych ar flodau, ac nid yw'n syndod bod gymaint yn ymddangos yn rheolaidd yn fy ngwaith".

Catalog Arddangosfa - Rhagfyr 2015