Happy Families - Claudia Williams


Claudia Williams RCA g.1933

Ganwyd Claudia Williams ym 1933, ac mae hi’n ffigwr adnabyddus ym myd celf Gymreig. Fel plentyn, yr oedd dawn dylunio Claudia yn amlwg ac fe enillodd sawl gwobr ac ysgoloriaeth genedlaethol am ei lluniau. Yn un ar bymtheg oed fe fynychodd Ysgol Gelf Chelsea, lle cydnabuwyd ei dawn darlunio unwaith yn rhagor gydag ysgoloriaeth. Ar ôl Chelsea, fe symudodd i ogledd Cymru i briodi’r arlunydd Gwilym Prichard ym 1954, ac ers hynny y mae hi wedi parhau i arddangos gyda llwyddiant cynyddol.

Bu Claudia’n byw yn Ffrainc am bymtheg mlynedd, ac fe geir parch mawr i’w gwaith yno hefyd. Ym 1955 fe’i gwobrwywyd gyda’r Fedal Arian gan Academi'r Celfyddydau, Gwyddorau a Llenyddiaeth, Paris, i gydnabod ei chyfraniad at y celfyddydau yn Ffrainc.

Mae paentiadau a darluniau Claudia fel arfer yn adlewyrchu bywyd cartref, plant ac wyrion, teuluoedd yn dod ynghyn a thripiau i’r traeth. Mae hi hefyd wedi cyffwrdd ar faterion mwy dadleuol, yn arbennig boddi Tryweryn. Mae ei chariad amlwg at ei thestun, yn ogystal  â llygad manwl at gyfansoddiad a lliw, ac ansawdd ei dawn dylunio yn cyfuno i gynhyrchu paentiadau o onestrwydd mawr ac apêl eang.

Mae Claudia wedi arddangos yn helaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf, ac fe gynrychiolir ei gwaith mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat. Etholwyd Claudia i'r Academi Frenhinol Gymreig ym 1979, ac mae hi'n Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd arddangosfa ôl-weithredol boblogaidd iawn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2000, ac fe gafwyd arddangosfa o’i pheintiadau grymus a theimladwy o Dryweryn yn 2010. Prynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei pheintiad 'Mother and Child' yn fis Hydref, 2010 ar gyfer eu casgliad Cenedlaethol.

 

Catalog Arddangosfa - Medi 2013