Wilf Roberts (1941 - 2016)

Ganwyd Wilf Roberts ym 1941 ac fe’i magwyd ar Fynydd Bodafon, Ynys Môn. Ym 1962 symudodd i fyw i Croydon, lle bu’n dysgu celf ac yn astudio’n rhan amser yng Ngholeg Celf Croydon.

Ym 1974, dychwelodd i Fôn i weithio i'r Lywodraeth Leol a’r Adran Addysg, ac er na fu’n arddangos am nifer o flynyddoedd, bu’n dal ati i beintio, gan gyfrannu ei waith a darlunio a chynllunio posteri ar gyfer elusennau cenedlaethol. Ym 1996 penderfynodd ymddeol er mwyn rhoi ei amser yn llwyr i beintio.

Roedd ei ddiddordeb mewn paentio ac arlunio wastad wedi bod yno fel rhan annatod o'i fywyd. Bu'r perthynas rhyngddo ef a’i amgylchedd i’w teimlo yn ei beintiadau; o lonyddwch a symlrwydd yr hen fythynnod, i hedd y perllannau olewydd neu erwinder y clogwyni a’u moroedd tymhestlog.

Mae ei waith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn yr Hague, Paris, Efrog Newydd, Awstralia a Phrydain.  Bu farw Wilf yn ei gartref yn Ynys Mon mis Medi 2016.

 Catalog Hydref 2014