Gloxinia - Ceri Richards


Ceri Richards (1903 - 1971)

Cydnabyddir Ceri Richards fel un o arlunwyr pwysicaf Cymru yn ystod ganol yr ugeinfed ganrif. Ganwyd yn Dunvant ger Abertawe ym 1903, ac astudiodd yn Ysgol Gelf Abertawe cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Celf Frenhinol, Llundain. Yn ei ddydd, chyd-arddangosai a'i gyfoeswyr Henry Moore, John Piper a Graham Sutherland yn aml, ac fe gynrychiolodd Prydain mewn nifer o arddangosfeydd rhyngwladol. Ym 1962 enillodd wobr yn y Venice Biennale. Cynrychiolir ei waith mewn nifer o brif amgueddfeydd y byd, ac mae casgliad o dros 90 o’i waith yn Oriel y Tate, Llundain.

Yn bianydd medrus, yn aml dilynai ei waith themâu cerddorol; amlygir hyn yn ei gyfres yn seiliedig ar 'Debussy’s Preludes' yn ogystal â'i 'Hammerklavier Suite' a'i 'Beethoven Suite with Variations'. Yng Nghymru efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei beintiadau a darluniau yn seiliedig ar farddoniaeth Dylan Thomas.

 

Casgliadau

Oriel Tate, Llundain

Oriel Genedlaethol Portreadaul, Llundain

Amgueddfa ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Amgueddfa ac Oriel Genedlathol Cymru

Amgueddfa ac Orielau Leeds

Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt

Oriel Genedlaethol yr Alban o Gelf Cyfoes, Caeredin

Amgueddfa Llundain

Orielau Celf Dinas Manceinion

Orielau Leicester

Oriel Gelf Walker, Lerpwl

Amgueddfa Rhyfel, Llundain

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Birmingham

Pallant House, Chichester

Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Oriel Hayward, Llundain

Amgueddfa ac Oriel Casnewydd

Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cymdeithas Gelf Cyfoes

Oriel Gelf Dinas Southampton

Amgueddfa Celf Toledo, Ohio, UDA

Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru

Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Gogledd Iwerddon

Casgliad Celf Llywodraeth Prydain

Y Cyngor Prydeinig

Coleg St Anne, Rhydychen

Amgueddfa Dinas Portsmouth

Amgueddfa Israel, Jerwsalem

 

Catalog Arddangosfa - Gwaith Dylan Thomas - Chwefror 2014

Catalog Arddangosfa 'Penintiadau, Darluniau a Phrintiau' - Ionawr 2016