Entrance of The Queen of the Night - John Macfarlane


John Macfarlane g.1948

Ganwyd John Macfarlane yn Glasgow ym 1948, ac fe'i hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Glasgow.Mae'n ystyried Cymru fel ei gartref gan iddo fod wedi byw yma ers 1975.

Mae John yn dilyn gyrfaoedd cyfochrog yn y theatr, drwy arlunio ac fel gwneuthurwr printiau.

Mae ei ddyluniadau ar gyfer operâu yn cynnwys Peter Grimes, Die Zauberflöte, Lady Macbeth of Mtsensk, Duke Bluebeard’s Castle/Erwartung a L’Heure espagnole/Gianni Schicchi (yr Opera Brenhinol), Hansel and Gretel (Opera Cenedlaethol Cymru a’r Opera Metropolitan, Efrog Newydd), The Queen of Spades (Opera Cenedlaethol Cymru), War and Peace (Opéra Bastille), La Clemenza di Tito (Paris Opéra), Agrippina (La Monnaie, Brwsel), The Trojans (Opera Cenedlaethol Lloegr), Don Giovanni (La Monnaie, San Francisco), Idomeneo (Vienna), Elektra a Rusalka (Chicago), The Rake’s Progress (Opera’r Alban) and Maria Stuarda (Opera Metropolitan). Mae ei ddyluniadau opera diweddaraf ar gyfer Tosca, ynghyd a Flying Dutchman ac Agrippina (i gyd ar gyfer Opera Metropolitan, Efrog Newydd). Mae ei ddyluniadau dawns yn cynnwys La Ronde Tetley a Frankenstein, Asphodel Meadows, Sweet Violets a The Age of Anxiety Scarlett (y Bale Brenhinol); Hummingbird (Bale San Francisco) a The Nutcracker, Le Baiser de la fée a Cinderella (Bale Brenhinol Birmingham) a’r mwyaf diweddar – cynhyrchiad arbennig o Swan Lake yn 2018 i’r Bale Brenhinol. 

Yn 2015, enillodd wobr lawryfog y Benois de la Danse. Mae’n Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres ac yn feirniad Gwobr Linbury.

Mae wedi arddangos ei luniadau dylunio a phaentiadau yn rhyngwladol ac mae wedi cael arddangosfeydd unigol rheolaidd gydag Oriel Martin Tinney ers 1995.

Casgliadau

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa Hunterian, Glasgow

Albertina, Vienna

Amgueddfa Theatr V & A  Llundain

Kunstshalle, Nuremberg

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru

Archif de L'Opera, Paris

Casgliad Tŷ Opera Metropolitan, Efrog Newydd

 

Catalog Arddangosfa - Tachwedd 2013