Red Howler - Kate Milsom


Kate Milsom g.1968

 

Astudiodd Kate Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen, gan dreulio ei blwyddyn olaf yn Ysgol Athrofa Celfyddyd Chicago yn sgil gwobr deithio estynedig.   Graddiodd ym 1992 a symudodd yn ôl i Lundain, lle, am gyfnod, bu ym myd dylunio graffeg a darlunio, gan weithio i Raymond Loewy Rhyngwladol, ac yn ddiweddarach yn Diwtor Cwrs yng Ngholeg Lambeth, ac wedyn yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerwrangon.

Erbyn diwedd y 1990au, wedi iddi gael ei hannog i ddilyn ei gyrfa peintio gan y diweddar Elizabeth Organ, sef perchennog egnïol oriel ac eiriolwr celf, siapiodd cyfres o ddigwyddiadau ei gwaith dilynol, gan ddechrau gyda symud o Lundain i Swydd Henffordd, priodas gythryblus mewn castell tebyg i un yn 'Gormenghast ', a chyfnod diweddarach o alltudiaeth yn Fenis.

Mae Kate yn arddangos yn helaeth - mae ei gwaith wedi cael ei ddangos yn fwyaf diweddar yn Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr, Bryste ac yn Oriel Mernier yn Llundain, ac mae'r nifer o gasglwyr preifat Ewropeaidd o Dde Ffrainc i Groatia sydd yn dilyn ei gyrfa yn cynyddu.

Mae hi'n dweud am ei gwaith:

"Dechreuais gynhyrchu darnau cyfryngau cymysg cymhleth yn ystod fy arhosiad hir yn Fenis, gan wneud defnydd o'r effemera o bamffledi amgueddfeydd a chardiau post a daflwyd ar lawr y ddinas. Drwy ymgorffori 'sbarion' o'r gorffennol o lyfrau a chylchgronau ail-law, a'r mapiau a oedd yn rhan o fy magwraeth fel plentyn i Geoffisegydd mentrus, fe wnes i gynhyrchu dyddiadur o ryw fath, realiti gwahanol i'r hanes yr wyf wedi dyfeisio i mi fy hun.  Ers hynny, rwyf wedi datblygu'r ffordd hon o weithio, ac rwyf yn cael fy ysbrydoli yn aml gan ddigwyddiadau cyfoes, gan greu 'golygfeydd cymhleth o gamweithio cymdeithasol', fy ymchwiliadau i'r 'cyflwr dynol' mewn cyfres o bortreadau dychmygol."