Yellow Table with Figure - Mary Mabbutt


Mary Mabbutt g.1951

 

Ganed Mary Mabbutt yn Luton ym 1951. Mynychodd Ysgol Gelf Luton ac yna Coleg Celf a Dylunio Loughborough. Rhwng 1975 a 1978, gwnaeth astudiaethau ôl-radd yn yr Academi Frenhinol, ac yna cafodd  Gymrodoriaeth Is yng Ngholeg Celf Caerdydd o 1978 i 1979. Symudodd wedyn i Gernyw i fod yn diwtor mewn peintio yng Ngholeg Celf Falmouth. Mae Mary wedi ennill nifer o wobrwyon a gwobrau, yn fwyaf nodedig Gwobr Peintio John Moores yn 1995. Mae hi wedi arddangos yn eang, gan gynnwys yn yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan, Efrog Newydd, ac mae ei gwaith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat.

Daw paentiadau Mary o fyd cyffredin ei hamgylchedd dyddiol, mannau a lleoedd yn ei bywyd. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae wedi pwysleisio perthynas lliw a'r angen am gydbwysedd rhwng creu gwaith ar raddfa fach oherwydd darganfyddiad annisgwyl a gofynion a chymhlethdod paentiadau mwy.

Dywed Mary am ei gwaith: 'Fy man cychwyn pob amser yw fy mhrofiad fy hun ac mae cyfran fawr o'm paentiadau wedi'u gwneud ar neu o fwrdd y gegin, sef canolbwynt y cartref. Rwyf hefyd wedi defnyddio'r hunanbortread fel pwynt ymadawiad yn y byd rwy’n arsylwi, sef ffigur dynol sy'n creu presenoldeb penodol ac yn mynnu sylw, rhywbeth nad yw’n deillio o fannau neu wrthrychau yn unig '.