Glyn Baines g.1930

Ganwyd Glyn Baines yng Ngharrog, Sir Ddinbych yn 1930 yna symudodd gyda'i deulu i fferm ym Mhen Llŷn. Fe adawodd y fferm deuluol i astudio celf yn Wrecsam a Chaerdydd. Dysgodd celf yn Ysgol Y Berwyn, Y Bala o 1966 hyd at ei ymddeoliad yn 1989, ac ers hynny mae wedi bod yn peintio yn llawn amser.

Mae ei gludwaith haniaethol wedi denu dilynwyr ffyddlon. 

Dyfarnwyd iddo fedal aur mewn celfyddyd gain yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015.