Louise Young g.1956

Ganwyd Louise Young yn Ne Orllewin yr Alban ond mae wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd ers dod yno yn y saithdegau hwyr i fynychu Coleg Celf Caerdydd.

Yn 2004, fe dreuliodd flwyddyn yn astudio peintio Botanegol yn Ngardd Ffisig Chelsea yn Llundain, ond yn raddol mae wedi ymestyn ei hystod ac mae hi bellach yn ystyried ei hun yn artist sy'n gwneud paentiadau o 'wrthrychau naturiol'.

Mae testunau ei phaentiadau fel arfer yn dod drwy hap a damwain tra’n cerdded, neu drwy gyfosod eitemau sy'n sbarduno ei chof am le, neu, yn syml, cragen, pluen neu flodyn gyda phatrwm diddorol neu liw cynnil. Mae ganddi ddiddordeb mewn ceisio cyfleu rhyfeddod y gwrthrychau bach hyn: "Mae’r ffefrynnau yn fy nghasgliad yn cael eu paentio a’u hailbeintio"

Mae'n defnyddio technegau hynod o draddodiadol - gan gynnwys dyfrlliw ar femrwn - i gynhyrchu paentiadau cyfoes eu naws o’r byd naturiol. Er ei bod yn gweithio mewn cyfrwng mor draddodiadol, mae'n gobeithio y bydd ei delweddau yn ddigyfnewid.