Jenny - Mary Griffiths


Mary Griffiths RCA g.1956

Ganed Mary Griffiths yn Llanelli yn 1956, hyfforddwyd yng Ngholeg Celf Dyfed a Choleg Celf Croydon. Mae hi’n enw cyfarwydd yn y byd celf ym Mhrydain, wedi ennill nifer o wobrau am ei lluniau a’i pheintiadau, gan gynnwys Gwobr Gelf Hunting. Dyfarnwyd y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol 1994. Dewiswyd ei gwaith ar gyfer arddangosfeydd yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol a gan Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr Portreadau.

Mae canmoliaeth fawr i gyfansoddiad ei gwaith, yn ogystal â’i hagwedd ddi-sentiment ac uniongyrchol iawn tuag at y pobl y mae hi’n eu peintio, gydag adolygiadau hynod gadarnhaol yn y wasg a charfan o gasglwyr brwd. Peintiadau ffigurol sydd ganddi bob tro, wedi’u goleuo’n gain, yn aml yn portreadu dynion a menywod mewn oed gan ei bod yn mwynhau’r cymeriad sydd yn eu hwynebau. Weithiau byddant yn ffigurau unigol, dro arall wedi’u dal mewn golygfa, ond bydd pob un ohonynt yn gofiadwy.

Nid yw Mary yn arddangos yn aml, ond mae ei sioeau wedi cynnwys nifer o arddangosfeydd mawreddog yn Llundain a thramor ac mae ei gwaith i weld mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yn 2000 cafodd ei hethol i’r Academi Frenhinol Gymreig ar wahoddiad Syr Kyffin Williams RA. 

 

Gwobrau

1999       Gwobr Baentio, Eastern Open

1997       Gwobr Ddarlunio Lady Evershed, Eastern Open

1995       Gwobr Gyntaf, Gwobrau Celf Hunting, Coleg Celf Brenhinol, Llundain

1994       Medal Aur mewn Celfyddyd Gain, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

1994       Cymeradwyaeth Uchel, Cystadleuaeth Hunting

1994       Gwobr Gyntaf, Drawing for All, Suffolk

1993       Cymeradwyaeth Uchel  - Darlunio, Eastern Open

1992       Cymeradwyaeth Uchel  -  Paentio, Eastern Open

1991       Cymeradwyaeth Uchel , Paentwyr Prydain, Llundain

1988       Gwobr Ddarlunio Lady Evershed, Eastern Open