Robert Pitwell g.1964
Ganwyd Robert Pitwell yn 1964, ac fe astudiodd Celfyddyd Gain yng Nghaerdydd yn y 90au. Mae wedi gweithio fel gwneuthurwr gwisgoedd a phrop ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru ac i nifer o gwmnïau theatr eraill sy'n seiliedig yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn darlithio celfyddyd gain a gwneud phrintiadau.
Dywed am ei waith; “Gallai'r man cychwyn ar gyfer y lluniau unai fod yn wrthrych neu yn syml y rhwystredigaeth o fethu gweithio yn y stiwdio, felly mi af ati i ddarllen, garddio, mynd allan ar y cwch neu gerdded y cwn, mae'r pethau yma'r un mor bwysig â'r canlyniad terfynol. Mae'r lluniau yma yn dangos fwy na'r gwrthrychau, maent yn awgrymu pethau sydd o'n gwmpas, eiliadau o'r gorffennol neu efallai pethau a allai ddigwydd. Rwyf yn ceisio esbonio rhywbeth o'r byd drwy fywyd dyddiol. Pan wyf yn gwneud printiau neu beintiad mae'r iaith ar broses yr un fath. Mae peintio fel iaith i mi, fel pob iaith mae'n caniatáu sbectrwm o bosibilrwydd sydd yn cychwyn gyda rhyddiaith ac yn gorffen mewn barddoniaeth. Mae'r lluniau yn ymwneud a'r gwrthrych ac yr hun rwyf yn ceisio creu - beth rwyf wedi gadael allan a hefyd beth rwyf wedi ei gynnwys."