Village from the Harbour I - Karina Rosanne Barrett


Karina Rosanne Barrett g.1981

Ganwyd Karina ym 1981 ac fe astudiodd ym Mhrifysgol Glyndŵr. Erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu yn ardal Eryri ac mae'n peintio'r tirlun sydd o'i hamgylch. Dywed mai Ynys Môn a Llŷn yw ei phrif ysbrydoliaeth, ac yn aml bydd yn peintio'r tirlun 'en plein air.'

Dywed am ei gwaith; "Mae'r môr yn destun hynod o bwysig i'r gwaith; mae ei bŵer a'i brydferthwch wedi fy nylanwadu erioed. Rwy'n hoff iawn o'r golau enigmatig sydd ar yr arfordir, ac rwy'n mwynhau ceisio ei gyfleu ar y cynfas. Mae gen i hefyd ddiddordeb yn y llochesi traddodiadol sydd i'w gweld yn yr ardal, a'r syniad eu bod nhw yn raddol yn cael eu hadennill gan y tir."

Catalog Arddangosfa Mehefin 2014