Rocky Cove - James Dickson Innes


James Dickson Innes (1887 - 1914)

Wedi ei eni yn Llanelli a'i hyfforddi yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ac Ysgol Slade, Llundain, roedd gyrfa James Dickson Innes yn drist o fyr.

Cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan y Fauvists a Mynegiadwyr, a bu'n peintio tirluniau mewn modd naturiol, lliwgar a gwreiddiol.  Ar adegau mae ei waith yn ymddangos yn ddiniwed, bron mewn arddull plentyn - ac mae hyn yn awgrymu ansawdd haniaethol.  I ddechrau, yr oedd yn peintio yn Ne Cymru, ac aeth hefyd ar deithiau peintio i Ogledd Cymru gyda'i ffrind agos, Augustus John. Gwnaeth nifer o deithiau peintio i dde Ffrainc ac ar ol dychwelyd o un o'i deithiau bu farw o'r pla gwyn yn 26 mlwydd oed.

Mae ei waith yn brin iawn.