O R I E L   M A R T I N   T I N N E Y

Cymraeg  /  English


Arddangosfa Bresennol

Arddangosfa ar Ddod

Artistiaid yr Oriel

Dechrau Casgliad

Cyswllt

Newyddion

Llyfrau & Chatalogau

 

 

Darren Hughes 'Turning to Winter'

Gweler Arddangosfa Bresennol

 

Sefydlwyd Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd yn 1989 ac y mae bellach yn cael ei gydnabod fel prif oriel fasnachol preifat Cymru. Arbenigedd yr oriel yw celf Cymreig ac artistiaid o'r radd flaenaf a fu ac sy'n gweithio yng Nghymru, o'r gorffennol a'r presennol. Symudodd yr oriel i'w chartref presennol yn 2002 ar ôl gweddnewidiad o dy tref o'r 19ed ganrif gydag estyniad pwrpasol, gan ddarparu tair llawr o ofod arddangos hyfryd.

Mae'r oriel yn arddangos gwaith gan artistiaid pwysicaf Cymru, gan gynnwys Harry Holland, Sally MooreGwilym Prichard, Shani Rhys James, Kevin Sinnott ac Evelyn Williams yn ogystal â'r gorau o'r genhedlaeth nesaf. Mae stoc hefyd o waith gan artistiaid blaengar yr 20ed ganrif, gan gynnwys Gwen John, Augustus John, Ceri Richards, David Jones, Syr Cedric Morris, John Piper, Graham Sutherland, Josef Herman, Peter Prendergast a Sir Kyffin Williams.

Ceir arddangosfa fisol yn y brif oriel ac arddangosfa newidiol o beintiadau, graffigwaith a cherfluniau yng ngweddill yr adeilad. Yn ogystal, y mae storfa fawr o waith yn yr oriel, a'r rhain ar gael i'w gweld drwy gais.

Cynhwysa gwsmeriaid yr oriel sefydliadau fel Oriel y Tate, Llundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn ogystal â nifer o gleiantiaid preifat ym Mhrydain a ledled y byd. Yr oriel hon yw'r unig oriel Gymreig sy'n cynrychioli ac yn arddangos mewn nifer i brif ffeiriau celf Prydain, gan gynnwys Ffair Gelf Llundain a Ffair Gelf Prydain 20/21, ac y mae'n hybu celf Cymreig drwy arddangos yn rheolaidd yn Llundain ac ymhellach. Mae'r oriel yn aelod o S.L.A.D - Cymdeithas Delwyr Celf Llundain (Society of London Art Dealers).

Mae awyrgylch yr oriel yn groesawgar ac yn anffurfiol, ac os ydych â diddordeb mewn adeiladu casgliad difrifol o gelf Cymreig neu'n chwilio am ddarn arbennig, mae'r oriel yn edrych ymlaen i'ch croesawi.

Cynllun Casglu: Mae cynllun credyd di-log Cyngor y Celfyddydau ar gael fel cymorth i brynu gwaith celf gan artistsiaid sydd dal yn fyw.

Oriau Agor

Llun - Gwener, 10 - 6, Sadwrn, 10 - 5. Suliau, ar gau

 

 

 

 

 

 

 

Arbenigwyr Celf Cymreig

 

 


ORIEL MARTIN TINNEY  18 Cilgaint Sant Andreas  Caerdydd CF10 3DD   (0044) 02920 641411  mtg@artwales.com


                                                                                                                                                             

Arbenigwyr Celf Cymreig                                                                                                                                                                                                                            Copyright 2010  Martin Tinney Gallery.

Martin Tinney Gallery Ltd. Registered in England and Wales No.2996355 Registered Office: 18 St.Andrew's Crescent, Cardiff, CF10 3DD